#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-723

Teitl y ddeiseb: Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.

​Rydym ninnau sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau'r 22 o gynghorau yng Nghymru.

Cefndir

Mae cynghorwyr lleol yng Nghymru yn cael eu hethol gan ddefnyddio system y cyntaf i'r felin (y system FPTP), fel sy'n digwydd yn Lloegr. Gall pob adran etholiadol (a elwir yn 'wardiau' gan amlaf) ddychwelyd un cynghorydd neu nifer o gynghorwyr.

Mae'r rhai sydd o blaid y system FPTP yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn sicrhau cyswllt clir rhwng cynghorwyr a'u hetholwyr. Mae gwrthwynebwyr yn tynnu sylw at y ffaith mai anaml iawn y bydd y system FPTP yn rhoi canlyniad sy'n adlewyrchu barn gyffredinol yr etholwyr. Maent hefyd yn dweud bod y system hon yn arwain at nifer fawr o seddi diwrthwynebiad lle ceir ond un ymgeisydd.

Yn 2002, roedd mwyafrif o aelodau Comisiwn Sunderland yn argymell cyflwyno system y bleidlais sengl drosglwyddadwy (y system STV) ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.  Sefydlwyd y Comisiwn gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2001 i archwilio'r trefniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a chyflwyno adroddiad arnynt.  Fodd bynnag, barn leiafrifol y Comisiwn hwnnw oedd y byddai'r system STV yn arwain at wardiau mwy, ac y byddai hynny'n gwneud cynghorwyr yn llai atebol ac yn llai lleol. Y farn leiafrifol oedd y dylid cadw'r system FPTP, ond gyda rhanbarthau etholiadol un aelod yn unig.

Mae cynghorwyr lleol yn yr Alban wedi cael eu hethol gan ddefnyddio'r system STV ers 2007.  Mae cynghorwyr yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn cael eu hethol gan ddefnyddio'r system STV.

Mae Aelodau rhanbarthol y Cynulliad yn cael eu hetholgan ddefnyddio un ffurf ar system gynrychiolaeth gyfrannol, sef y system Aelodau ychwanegol.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau gwahanol ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Hyd yn hyn, nid yw'r broses honno wedi canolbwyntio ar newid y system bleidleisio. Fodd bynnag, yn ei lythyr at y Pwyllgor dyddiedig 4 Ionawr 2017, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet y gallai deddfiad Bil Cymru ymestyn grym Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r system bleidleisio a'r drefn gofrestru mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol. Dywedodd ei fod yn bwriadu ymgynghori ar becyn o gynigion maes o law, ac y byddai rhai ohonynt, o bosibl, yn cael eu treialu mewn isetholiadau lleol. Roedd llythyr Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn bwrw amheuaeth ynghylch a yw diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yn fater sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn y Trydydd Cynulliad (2007-2011), cynigiodd Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a fyddai wedi caniatáu i'r Cynulliad ddeddfu mewn perthynas â'r "trefniadau ar gyfer ethol aelodau awdurdodau lleol a’r system etholiadol a ddefnyddir i’w hethol". Cafodd y Gorchymyn hwn ei drafodgan y Cynulliad ar 11 Mehefin 2008, ond ni chafodd ei gymeradwyo.

Yn ystod y gwaith craffu a wnaed yng Nghyfnod 1 ar Fil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) ym mis Chwefror 2013, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau nad oedd gan y Cynulliad gymhwysedd ym maes diwygio etholiadol.

Cyflwynwyd gwelliannau i'r Bil Llywodraeth Leol ym mis Mehefin 2015—eto gan Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol—a fyddai wedi cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.  Fodd bynnag, gwrthodwyd y gwelliannau hyn. 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 

Cywirwyd y briff hwn ar 18 Ionawr 2017 i ddileu datganiad a oedd yn awgrymu bod y system etholiadol Pleidlais Amgen yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol.